Song of Solomon 1


1Cân serch orau Solomon.

Y gerdd gyntaf – Cariad

Y ferch wrth ei chariad
1:1 Y ferch wrth ei chariad Dydy'r testun Hebraeg ddim yn dweud pwy sy'n siarad. Mae'r cyfieithiad hwn yn nodi pwy sy'n debygol o fod yn siarad ar sail cenedl geiriau. (Mae'n weddol amlwg yn yr Hebraeg pwy sy'n siarad gan fod yr iaith Hebraeg yn defnyddio ffurfiau gwrywaidd a benywaidd gwahanol i enwau, berfau, ansoddeiriau a rhagenwau. Er hynny, mae cyfieithiadau gwahanol yn amrywio rhywfaint yn eu barn.)
:
2Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd!
Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
3ac arogl dy bersawr mor hyfryd.
Rwyt fel yr olew persawrus gorau –
does dim syndod fod merched ifanc
yn dy garu di.
4Tyrd, cymer fi gyda ti;
gad i ni frysio! Fy mrenin,
dos â fi i dy ystafell wely.
Gad i ni fwynhau a chael pleser;
mae profi gwefr dy gyffyrddiad
yn well na gwin.
1:4 mae profi … gwin Mae'r Hebraeg yr un fath â'r ail linell yn adn.2. Mae'r cyfieithiad yn wahanol i geisio cyfleu ystyr lawn y darlun yn y gwreiddiol.

Mae'n ddigon teg fod merched ifanc
yn dy garu di.
Y ferch wrth ferched Jerwsalem:
5Ferched Jerwsalem,
Mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd –
yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar
1:5 pobl Cedar Llwyth nomadig o'r dwyrain, ac mae'n debyg eu bod yn gwneud eu pebyll o groen geifr duon (gw. Jeremeia 49:28; Eseia 60:7)
,
a hardd fel llenni palas Solomon.
6Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu
a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi.
Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi,
a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd;
ond methais ofalu amdana i fy hun.
Y ferch wrth ei chariad:
7Fy nghariad, dywed wrtho i,
Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid?
Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd?
Dywed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl
a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
Merched Jerwsalem wrth y ferch:
8O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,
dilyn olion traed y praidd
a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
Y cariad wrth y ferch:
9F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf
sy'n tynnu cerbydau'r Pharo.
10Mae tlysau ar dy fochau hardd,
a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
11Dw i am roi tlysau aur i ti,
wedi eu haddurno ag arian.
Y ferch ifanc:
12Tra roedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely,
roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr.
13Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd
yn gorwedd trwy'r nos rhwng fy mronnau.
14Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna
o winllannoedd ffrwythlon En-gedi.
1:14 En-Gedi Gwerddon i'r gorllewin o'r Môr Marw.

Y cariad wrth y ferch ifanc:
15O, rwyt mor hardd f'anwylyd!
O, rwyt mor hardd!
Mae dy lygaid fel colomennod.
Y ferch wrth ei chariad:
16O, rwyt mor olygus fy nghariad –
ac mor hyfryd!
Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpas
yn gorchuddio'n gwely.
17Mae canghennau'r coed cedrwydd
fel trawstiau'n y to uwch ein pen;
a'r coed pinwydd fel paneli.
Copyright information for CYM